Pobl
Croeso i wefan Eglwys Fedyddiedig Ebeneser yn Aberafan, Cymru.
Mae’r eglwys yn Aberafan wedi bod yn cynnig gwasanaeth pwysig i bobl Aberafan am flynyddoedd lawer. Dymunwn barhau i’ch gwasanaethu trwy gyhoeddi’r Newyddion Da am gariad mawr Duw tuag atoch yn Iesu Grist. Felly gwahoddwn chi’n gynnes i’r cyfarfodydd.
Pwy ydym? Pobl ydym sy’n credu yn Iesu Grist. Wedi dod i adnabod Duw trwy nerth yr Ysbryd Glân mae ystyr, cyfeiriad a phwrpas newydd i’n bywydau nawr. Ein cenhadaeth yw cyhoeddi Gair Duw er mwyn ei wneud Ef yn adnabyddus i bobl ac felly estyn Ei Deyrnas.
Sefydlwyd yr achos Bedyddiedig yn Aberafan ym 1651 gan Lewis Thomas o Ilston (safle’r eglwys Fedyddiedig gyntaf yng Nghymru a sefydlwyd gan John Miles ym 1649). Daw ein Gweinidog presennol, Peter Davies, o Aberteifi. Mynychodd Eglwys Fedyddiedig Bethania yn y dref gan ddod yn Gristion yn ystod ei ddyddiau Ysgol. Fe’i hyfforddwyd yng Ngholeg Bedyddiedig Gogledd Cymru ym Mangor ac mae wedi gweinidogaethu mewn eglwysi Bedyddiedig yng Ngogledd a De Cymru. Mae hefyd wedi gweithio ym meysydd Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae’n briod â dau o blant. Ymhlith ei ddiddordebau mae darllen, cerddoriaeth, ffotograffiaeth, mabolgampau a theithio.