Beth yw ein neges?

Credwn i Dduw ein creu i fyw mewn perthynas ag Ef. Ond ‘rydym wedi pechu yn ei erbyn Ef ac felly colli’r berthynas ac wynebwn ei gosb Ef. Allan o gariad Duw tuag atom wynebodd Iesu Grist y gosb yn Ei farwolaeth ar y Groes. Wrth edifarhau am ein pechod a chredu yng Nghrist cawn ein hadfer i berthynas â Duw.

Am i ni brofi Duw yn wir i’w Air yna derbyniwn y Beibl fel rheol ein ffydd a’n buchedd. Felly:

Credwn yn Nuw – Tad, Mab, ac Ysbryd Glân – yn Drindod Sanctaidd mewn Undod Perffaith.

Credwn yn Nuw Dad a greodd ddyn i fyw mewn perthynas gariadlawn ag Ef.

Credwn i ddyn bechu yn erbyn Duw ac felly collodd ei berthynas â Duw ac wyneba Ei gosb dragwyddol yn uffern.

Credwn yn yr Arglwydd Iesu Grist, Unig-Anedig Fab Duw, yr Hwn allan o gariad Duw at ddyn a wynebodd Ei gosb ar ddyn yn Ei farwolaeth ar y Groes ac yna a gododd o’r bedd ac a esgynodd i’r nefoedd.

Credwn yr adferir pwy bynnag a gredo yng Nghrist i berthynas gariadlawn â Duw.

Credwn yn yr Ysbryd Glân sy’n argyhoeddi dyn o bechod gan ei alluogi i edifarhau a chredu yn Nghrist a phlannu ynddo ddymuniad i ymsancteiddio.

Credwn y daw’r Arglwydd Iesu Grist yn ôl i’r ddaear i farnu’r byw a’r meirw ac y condemnir anghredinwyr i uffern ac yr achubir credinwyr i’r nefoedd.